acthub.beta

OFCOM's annual report on notices to deal with terrorism content or CSEA content and on accuracy-standard technology

universal formatas at 27 Jan 2025

OFCOM's annual report on notices to deal with terrorism content or CSEA content and on accuracy-standard technology

Adroddiad Blynyddol ar Hysbysiadau i ddelio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

Adroddiad Cyhoeddwyd ar 9 Ionawr 2025

Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Gyfathrebiadau ar Hysbysiadau i ddelio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

I’w gyflwyno i Senedd y DU yn unol ag Adran 128 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Gorchmynnir gan Dŷ’r Cyffredin i’w argraffu ar 8 Ionawr 2025
© Hawlfraint Ofcom 2025
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 ac eithrio lle nodir fel arall. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.
Pan fyddwn wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r cyhoeddiad hwn atom yn https://www.gov.uk/government/organisations/ofcom.
ISBN 978-1-5286-5402-9
E03280619 01/25
Argraffwyd ar bapur sy'n cynnwys o leiaf 40% o ffeibr wedi’i ailgylchu. Argraffwyd yn y DU gan HH Associates Ltd. ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi

Cynnwys

Adran

1. Trosolwg ............................................................................................................................. 1
2. Cefndir ................................................................................................................................ 2
3. Adroddiad Blwyddyn 1 ....................................................................................................... 6

Section 1 Trosolwg

1.1 Ofcom yw rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, ac mae’n goruchwylio sectorau sy'n cynnwys telegyfathrebiadau, y post, teledu sy’n cael ei ddarlledu, radio, a gwasanaethau ar-lein. Cawsom ein penodi yn rheoleiddiwr diogelwch ar-lein o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’) ym mis Hydref 2023. Mae Rhan 7 y Ddeddf yn nodi pwerau a dyletswyddau Ofcom mewn perthynas â gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio. Mae’r rhain yn cynnwys pŵer penodol o dan Bennod 5 o Ran 7 o’r Ddeddf, pan fyddwn yn credu ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur, i gyhoeddi ‘hysbysiadau i ddelio’ â dau fath penodol o gynnwys anghyfreithlon; terfysgaeth a/neu CSEA.
1.2 Y ddogfen hon yw adroddiad blynyddol Ofcom yn unol ag adran 128 o’r Ddeddf mewn perthynas â blwyddyn galendr 2024. Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r canlynol: a) arfer swyddogaethau Ofcom o dan Bennod 5 o Ran 7 o’r Ddeddf yn ystod y cyfnod hwnnw (ein ‘swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg’), b) technoleg sy’n bodloni, neu sydd yn y broses o ddatblygu i fodloni, safonau cywirdeb gofynnol at ddibenion y bennod honno.
1.3 Anfonwyd yr adroddiad hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd wedi’i gyflwyno gerbron y Senedd.
Crynodeb o’r adroddiad Dyma adroddiad blynyddol Ofcom ar gyfer 2024, a dyma ein hadroddiad blynyddol cyntaf o dan adran 128 o’r Ddeddf ers i’r darpariaethau perthnasol ddod i rym ar 10 Ionawr 2024. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud gwaith paratoi cyn 2024, ac felly rydym hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at waith a wnaed yn 2023.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn egluro sut mae Ofcom wedi gosod y sylfeini ar gyfer defnyddio ein swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg. Mae hyn wedi arwain at gyhoeddi ein hymgynghoriad yn nodi cynigion ar gyfer ein cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol ar safonau cywirdeb gofynnol, yn ogystal â’n canllawiau drafft ar gyfer darparwyr gwasanaethau Rhan 3 ar sut rydym yn bwriadu arfer ein swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg. Ar hyn o bryd, nid yw’r rhan hon o’r drefn yn weithredol ac ni all yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo na chyhoeddi unrhyw safonau cywirdeb gofynnol nes eu bod wedi cael cyngor gan Ofcom.

Section 2 Cefndir

Cyflwyniad

2.1 Mae’r Ddeddf yn darparu’r sicrwydd bod cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a Cham-drin Plant yn Rhywiol a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (‘CSEA’) yn ddau gategori o gynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth, ac mae Ofcom wedi cael amrywiaeth o ddyletswyddau a phwerau i fynd i’r afael â chynnwys o’r fath. Mae’r rhain yn cynnwys y pŵer i gyhoeddi Codau Ymarfer sy’n nodi’r mesurau a argymhellir y gall gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio eu cymryd i gydymffurfio â’u dyletswyddau diogelwch ar-lein (gan gynnwys mewn perthynas â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a CSEA), ac i gymryd camau gorfodi pan nad ydynt yn cydymffurfio.
2.2 Ar ben hynny, mae Pennod 5 o Ran 7 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Ofcom gyhoeddi ‘Hysbysiad Technoleg’ sy’n mynnu bod darparwr gwasanaeth Rhan 3 yn delio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA pan fyddwn yn credu ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
2.3 Mae’r Adran hon yn rhoi trosolwg o’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â’n pŵer i gyhoeddi Hysbysiad Technoleg, gan gynnwys beth yw cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a CSEA, yr hyn y gall Ofcom ei fynnu mewn Hysbysiad Technoleg a’r mesurau diogelu sydd ar waith cyn y gall Ofcom gyhoeddi Hysbysiad.

Y fframwaith cyfreithiol

Beth yw cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a CSEA?

2.4 Mae cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a CSEA yn ddau gategori o ‘gynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth’ o dan y Ddeddf.
2.5 Mae ‘cynnwys anghyfreithlon’ yn gysyniad newydd sydd wedi’i greu gan y Ddeddf, ac sy’n cael ei ddiffinio fel ‘cynnwys sy’n cyfateb i drosedd berthnasol’.1 Mae Adran 192 o’r Ddeddf yn nodi sut dylai darparwyr gwasanaethau wneud penderfyniadau ynghylch a yw’r cynnwys yn anghyfreithlon, pan fydd yn ofynnol iddynt wneud hynny. Mae’r dull gweithredu a nodir yn y Ddeddf yn golygu y dylid gwneud ‘dyfarniadau cynnwys anghyfreithlon’ os oes gan y darparwr gwasanaeth ‘sail resymol dros dybio’ bod y cynnwys dan sylw yn cyfateb i drosedd berthnasol.2 Nid yw ‘sail resymol i dybio’ yn drothwy troseddol, ac nid oes unrhyw oblygiadau troseddol i’r defnyddiwr os bernir bod ei gynnwys yn anghyfreithlon yn erbyn y trothwy hwn.3
1 Gall y cynnwys fod yn ‘eiriau, delweddau, ymadrodd neu synau penodol’. Mae diffiniad llawn o gynnwys anghyfreithlon ar gael yn adran 59 o’r Ddeddf.
2 Rhaid i’r gwasanaeth wneud y penderfyniad hwn gan ddefnyddio’r holl ‘wybodaeth berthnasol sydd ar gael yn rhesymol’ iddo. Mae’r ddwy egwyddor hyn yn cael eu hegluro’n llawn yn ein Canllawiau ar Ddyfarniadau Cynnwys Anghyfreithlon (‘ICJG’). Mae’r canllawiau hyn wedi’u llunio i helpu darparwyr i ddeall yn well beth yw cynnwys anghyfreithlon a sut dylent wneud penderfyniadau am y cynnwys hwnnw. 3 Nid oes rhaid i’r darparwr roi gwybod i asiantaethau gorfodi’r gyfraith am gynnwys anghyfreithlon, ac eithrio pan fo’r cynnwys yn amodol ar roi gwybod am ddeunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSEA) i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn y DU, fel y nodir yn adran 66 y Ddeddf.
2.6 Mae’r Ddeddf yn nodi’r ‘troseddau perthnasol’ sydd o fewn cwmpas cyfraith trosedd yn y DU at ddibenion adnabod ‘cynnwys anghyfreithlon’. O dan y Ddeddf, mae’r troseddau perthnasol yn cynnwys y canlynol: a) rhestr o droseddau blaenoriaeth; b) troseddau ‘nad ydynt yn flaenoriaeth’ (neu ‘eraill’).
2.7 Mae mwy na 130 o droseddau blaenoriaeth o fewn cwmpas y Ddeddf. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Atodlenni 5 (Troseddau sy’n ymwneud â therfysgaeth), 6 (Troseddau CSEA) a 7 (Troseddau blaenoriaeth) y Ddeddf, a dyma’r troseddau mwyaf difrifol sy’n dod o dan y Ddeddf, fel y’u diffinnir gan y Senedd. Bydd angen i holl ddarparwyr gwasanaethau Rhan 3 weithredu i atal defnyddwyr rhag dod ar draws cynnwys sy’n cyfateb i un o’r troseddau hyn.
2.8 Mae cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth yn cyfeirio at gynnwys sy’n drosedd a nodir yn Atodlen 5 y Ddeddf. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith troseddau eraill: a) Cyfres o droseddau sy’n ymwneud â ‘sefydliadau gwaharddedig’; b) Troseddau sy’n ymwneud â gwybodaeth sy’n debygol o fod o ddefnydd i derfysgwr; c) Troseddau sy’n ymwneud â hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth; d) Troseddau eraill sy’n cynnwys annog terfysgaeth neu ledaenu deunyddiau terfysgol; e) Troseddau amrywiol a mwy penodol sy’n ymwneud â therfysgaeth; f) Troseddau sy’n ymwneud â darparu cyllid ar gyfer terfysgaeth.
2.9 Mae cynnwys CSEA yn cyfeirio at gynnwys sy’n drosedd a nodir yn Atodlen 6 y Ddeddf. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith troseddau eraill: a) Troseddau sy’n ymwneud â gwneud, dangos, dosbarthu neu feddu ar ddelwedd neu ffilm anweddus o blentyn; b) Trosedd sy’n ymwneud â meddu ar ddelwedd waharddedig o blentyn; c) Cysylltu neu gyfeirio defnyddiwr at ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM); d) Trosedd sy’n ymwneud â meddu ar lawlyfr pedoffeil; e) Trosedd sy’n ymwneud â chyhoeddi erthygl anweddus; f) Troseddau o weithgarwch rhywiol (y dioddefwr posibl o dan 16 oed); g) Troseddau rhwng oedolyn a phlentyn (y dioddefwr posibl o dan 16 oed); h) Troseddau sy’n ymwneud â ‘threfnu’ ynghyd â ‘chynorthwyo’, ‘annog’ a ‘chynllunio’ a allai ddigwydd rhwng oedolion a/neu blant (dioddefwr/dioddefwyr posibl o dan 16 oed); i) Troseddau sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a phobl ifanc 17 oed neu iau.

Beth all Ofcom ei fynnu mewn Hysbysiad Technoleg?

2.10 Caiff Ofcom roi Hysbysiad Technoleg i ddarparwr gwasanaeth Rhan 3,4 hynny yw, gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael ei reoleiddio neu wasanaeth chwilio sy’n cael ei reoleiddio (neu wasanaeth cyfun) (‘gwasanaeth’),5 er mwyn: a) defnyddio technoleg achrededig i ddelio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA; neu
4 Gweler adran 121 o'r Ddeddf. 5 Mae ‘gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr’ a ‘gwasanaethau chwilio’ wedi’u diffinio yn adran 3 y Ddeddf. Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu rheoleiddio at ddibenion y Ddeddf os oes gan y gwasanaeth gysylltiadau â’r DU ac os nad yw’n dod o fewn Atodlen 1 neu Atodlen 2 o’r Ddeddf (gweler adran 4 y Ddeddf). Mae ‘gwasanaeth cyfun’ yn golygu gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael ei reoleiddio ac sy’n cynnwys peiriant chwilio cyhoeddus – gweler adran 4(7) y Ddeddf.
b) gwneud pob ymdrech i ddatblygu neu ddod o hyd i dechnoleg sy’n bodloni’r safonau cywirdeb gofynnol i ddelio â chynnwys CSEA.
2.11 Ar gyfer Hysbysiad Technoleg sy’n mynnu bod technoleg achrededig yn cael ei defnyddio: a) efallai y bydd angen i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr ddefnyddio’r dechnoleg honno i nodi a thynnu unrhyw gynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth neu CSEA i lawr yn gyflym, neu atal unigolion rhag dod ar draws y cynnwys hwnnw; ac b) efallai y bydd angen i wasanaethau chwilio ddefnyddio’r dechnoleg honno i ganfod cynnwys chwilio’r gwasanaeth sydd â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth neu CSEA, yn ogystal â chymryd camau’n gyflym i sicrhau nad yw’r dechnoleg yn canfod cynnwys o’r fath yn y cynnwys chwilio, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny.
2.12 Ar gyfer Hysbysiad Technoleg sy’n mynnu bod technoleg yn cael ei chanfod neu ei datblygu, efallai y bydd angen i wasanaethau wneud eu gorau glas i ddatblygu neu ganfod technoleg sy’n bodloni’r safonau cywirdeb gofynnol, ac y gellir eu defnyddio at y dibenion canlynol: a) yn achos gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, canfod cynnwys CSEA a’i dynnu i lawr yn gyflym, neu atal unigolion rhag dod ar ei draws; ac b) yn achos gwasanaethau chwilio, canfod cynnwys chwilio’r gwasanaeth sydd â chynnwys CSEA, yn ogystal â chymryd camau’n gyflym i sicrhau nad yw’r dechnoleg yn canfod cynnwys CSEA yn y cynnwys chwilio, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny.
2.13 Ar gyfer gwasanaethau defnyddwyr-i-ddefnyddiwr, gallwn fynnu eu bod yn defnyddio technoleg achrededig, neu’n datblygu neu’n dod o hyd i dechnoleg, i fynd i’r afael â chynnwys CSEA sy’n cael ei gyfleu’n breifat ac yn gyhoeddus drwy’r gwasanaeth; a thechnoleg achrededig i fynd i’r afael â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth sy’n cael ei gyfleu’n gyhoeddus drwy’r gwasanaeth. Mae’r Ddeddf yn pennu ffactorau y mae’n rhaid i ni eu hystyried yn benodol wrth benderfynu a yw cynnwys yn cael ei gyfleu ‘yn gyhoeddus’ neu’n ‘breifat’ at ddibenion Hysbysiad Technoleg.6

Beth mae ‘technoleg achrededig’ yn ei olygu?

2.14 Mae technoleg yn cael ei ‘hachredu’ os yw’n cael ei hachredu gan Ofcom, neu berson arall a benodir gan Ofcom, fel rhywun sy’n bodloni’r safonau cywirdeb gofynnol wrth ganfod cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA.7 Rhaid i’r safonau cywirdeb gofynnol hynny fod yn safonau sy’n cael eu cymeradwyo a’u cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol am y tro, yn dilyn cyngor gan Ofcom.8 Pan fydd Hysbysiad Technoleg yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth Rhan 3 wneud ei orau glas i ddatblygu neu ddod o hyd i dechnoleg i ddelio â chynnwys CSEA, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo geisio datblygu neu ddod o hyd i dechnoleg sy’n bodloni’r safonau gofynnol hynny.

Ystyriaethau i Ofcom cyn cyhoeddi Hysbysiad Technoleg

2.15 Cyn y gall Ofcom arfer ei swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg, mae angen cymryd rhai camau pwysig:
6 Gweler adran 232 o'r Ddeddf. Dyma’r rhain: a) nifer yr unigolion yn y DU sy’n gallu cael gafael ar y cynnwys drwy’r gwasanaeth; b) unrhyw gyfyngiadau ar bwy gaiff gael gafael ar y cynnwys drwy’r gwasanaeth; ac c) pa mor hawdd y gellir rhannu neu anfon cynnwys ymlaen at rywun. Gweler Ofcom, Canllawiau ar gynnwys sy’n cael ei gyfleu’n ‘gyhoeddus’ ac yn ‘breifat’ o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein [cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024]. 7 Adran 125(12) y Ddeddf. 8 Adran 125(13) y Ddeddf. Gweler hefyd baragraff 3.2 isod.
a) Rhaid i Ofcom roi gwybod i’r Ysgrifennydd Gwladol am safonau gofynnol o ran cywirdeb wrth ganfod cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a CSEA cyn y gall yr Ysgrifennydd Gwladol eu cymeradwyo a’u cyhoeddi. b) Cyn y gall gyhoeddi Hysbysiad sy’n mynnu bod technoleg benodol yn cael ei defnyddio, rhaid i Ofcom neu drydydd parti enwebedig fod wedi achredu’r dechnoleg honno yn erbyn y safonau cywirdeb gofynnol; a c) Rhaid i Ofcom gynhyrchu canllawiau ar gyfer darparwyr gwasanaeth Rhan 3 ynghylch sut mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg.
2.16 Mae sawl cam ychwanegol a/neu fesurau diogelu yn y Ddeddf angen eu gweithredu cyn y bydd Ofcom yn gallu cyhoeddi Hysbysiad Technoleg i ddarparwr penodol gwasanaeth Rhan 3. Yn benodol, rhaid i Ofcom wneud y canlynol: a) cael adroddiad gan berson medrus i’n cynorthwyo i benderfynu a ddylid rhoi Hysbysiad Technoleg, ac i roi cyngor am y gofynion y gellid eu gosod; b) rhoi hysbysiad rhybuddio i ddarparwr gwasanaeth Rhan 3, sy’n amlinellu’r gofynion y mae Ofcom yn ystyried eu gosod mewn Hysbysiad Technoleg, a rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau arno; a c) bod yn fodlon ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur cyhoeddi Hysbysiad Technoleg. Wrth benderfynu a yw’n angenrheidiol ac yn gymesur mewn achos penodol, mae’n rhaid i Ofcom ystyried amrywiaeth o faterion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig
i y math o wasanaeth; pa mor gyffredin yw lledaenu cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth neu gamfanteisio’n rhywiol ar blant ar y gwasanaeth; a’r systemau a’r prosesau sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan y gwasanaeth i ganfod a chael gwared ar gynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth/CSEA.9
2.17 Wrth fynnu bod technoleg benodol yn cael ei defnyddio (yn hytrach na’r ymdrechion gorau i ddatblygu neu ganfod technoleg), mae’n rhaid i Ofcom hefyd ystyried materion fel i ba raddau y gallai defnyddio’r dechnoleg benodol arwain at ymyrryd â hawl defnyddwyr i ryddid mynegiant;10 a lefel y risg y bydd defnyddio’r dechnoleg honno yn torri gofynion preifatrwydd (gan gynnwys diogelu data).11
9 Mae Adran 124 y Ddeddf yn nodi’r materion y mae’n rhaid i ni eu hystyried, yn benodol, wrth wneud ein penderfyniad. 10 Adran 124(2)(i) o’r Ddeddf. 11 Adran 124(2)(j) o’r Ddeddf.

Section 3 Adroddiad Blwyddyn 1

Arfer ein swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg

3.1 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.15, mae angen cymryd camau pwysig cyn y gall Ofcom arfer ei swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg. Ar hyn o bryd, nid yw’r rhan hon o’r drefn yn weithredol ac ni all yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo na chyhoeddi unrhyw safonau cywirdeb gofynnol nes eu bod wedi cael cyngor gan Ofcom. Felly, nid ydym wedi bod mewn sefyllfa eto i asesu a oes unrhyw dechnoleg sy’n bodloni, neu wrthi’n cael ei datblygu i fodloni, unrhyw safonau cywirdeb gofynnol o’r fath.
3.2 Fodd bynnag, rydym wedi gwneud llawer iawn o waith paratoi dros y flwyddyn ddiwethaf (ac yn 2023) mewn perthynas â’n swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg. Arweiniodd hyn at gyhoeddi ein Hymgynghoriad ar gynigion polisi ar safonau cywirdeb gofynnol ar gyfer technolegau achrededig, a chanllawiau i ddarparwyr (‘Ymgynghoriad: Hysbysiadau Technoleg’)12 sy’n destun ymgynghoriad ar ein cynigion polisi ar gyfer ein cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol ar osod y safonau cywirdeb gofynnol, yn ogystal â’n canllawiau drafft ar gyfer darparwyr gwasanaethau Rhan 3 ar arfer ein swyddogaethau o ran Hysbysiad Technoleg. Cyhoeddwyd hwn ar 16 Rhagfyr 2024.
3.3 Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud i gyfrannu at ein hymgynghoriad, a’n gwaith yn fwy cyffredinol mewn perthynas â’r pŵer hwn, yn cynnwys y canlynol:
i Ceisiadau am Wybodaeth: yn gynnar yn 2024, roeddem wedi cyhoeddi ceisiadau statudol am wybodaeth i ddeg cwmni sydd wedi datblygu technoleg canfod cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA, gan gynnwys sawl darparwr gwasanaethau rheoledig Rhan 3. O’r ymatebion, fe wnaethom ddysgu sut mae’r datblygwyr technoleg yn cysyniadoli ac yn asesu perfformiad eu technolegau, yn enwedig cyn eu defnyddio neu sicrhau eu bod ar gael i drydydd partïon.
ii Gweithdy aml-randdeiliaid: ym mis Hydref 2023, fe wnaethom wahodd 30 o sefydliadau i weithdy wedi’i gydlynu gan Ipsos, sef cwmni ymgynghori ac ymchwilio i’r farchnad, yn swyddfa Ofcom yn Llundain. Fe wnaeth y gweithdy ein helpu i ddeall safbwyntiau rhanddeiliaid ar safonau cywirdeb gofynnol, y broses achredu a phŵer yr Hysbysiad Technoleg yn fwy cyffredinol.13
iii Ymchwil allanol: fe wnaethom gomisiynu ymgynghoriaeth allanol, PUBLIC, ym mis Mai 2023, i’n helpu i ddeall yn well sut i ddatblygu cynllun achredu. Roedd yr ymchwil gan PUBLIC yn edrych ar sut mae prosesau achredu presennol wedi cael eu datblygu, eu gwerthuso a’u gweithredu o 11 dull achredu ar draws pum sector.14
12 Ofcom, Ymgynghoriad: Hysbysiadau Technoleg [cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024]. 13 Ipsos, Adroddiad ar Weithdy Aml-randdeiliaid Ipsos [cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024]. 14 Ofcom, Adroddiad Tirwedd Achredu Technoleg gan PUBLIC [cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024].

Ein camau nesaf

3.4 Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i leisio eu barn ar ein Hymgynghoriad: Hysbysiadau Technoleg a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 5pm ddydd Llun 10 Mawrth 2025.15
3.5 Yn ystod 2025, rydym hefyd yn bwriadu gwneud rhagor o waith i benderfynu sut bydd y cynllun achredu’n gweithio, a allai gynnwys comisiynu rhagor o ymchwil allanol. Gan ystyried y gwaith hwn, ac yn amodol ar ymatebion i’r ymgynghoriad, byddwn wedyn yn cyhoeddi ein cyngor ar safonau cywirdeb gofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol. Rydym yn disgwyl cyhoeddi ein canllawiau terfynol ar gyfer darparwyr gwasanaethau Rhan 3 ar arfer ein swyddogaethau Hysbysiad Technoleg ar yr un pryd â’n cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Ffigur 1- Crynodeb o’r camau sydd angen eu cymryd cyn y gall Ofcom gyhoeddi Hysbysiad Technoleg
15 Ofcom, Ymgynghoriad: Hysbysiadau Technoleg [cyrchwyd 17 Rhagfyr 2024].
E03280619 01/25
978-1-5286-5402-9